Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023

 

Pwynt Craffu Technegol 1:

Yr egwyddor gyffredinol a ddilynir, wrth ddiwygio’r ddeddfwriaeth bresennol, yw cynnal cysondeb â therminoleg ac ymadroddion y testun gwreiddiol. Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yn nodi “dechrau ar” i gyfateb i’r Saesneg “beginning 1 January” yn rheoliad 6(3). Teimlwyd felly y dylid defnyddio’r un geiriad y tro hwn. Hefyd, o ystyried bod y nodyn esboniadol i’r Rheoliadau yn datgan yn nhestun y ddwy iaith bod rheoliad 2(3) yn diwygio rheoliad 4 fel bod y terfyn o nitrogen mewn tail da byw yn gymwys i bob cyfnod o 12 mis “sy’n dechrau â 1 Ionawr”, mae’n ddigon clir i’r darllenydd yr hyn a fwriedir o dan reoliad 2(3)(a). Felly, ystyrir nad oes angen diwygiad i ymdrin â’r pwynt craffu technegol hwn.